2015 Rhif 1182 (Cy. 79) (C. 71)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”). Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn i’w wneud o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adrannau 55, 56, 57, 58, 68 a 69 o’r Ddeddf ar 1 Mai 2015.

Mae adran 55 yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned sicrhau bod gwybodaeth benodol am y cyngor cymuned ar gael yn electronig. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyngor cymuned, pan fydd yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 55, roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 56 yn diwygio adran 232 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) sy’n ymwneud â’r ffordd y mae awdurdodau lleol yn rhoi hysbysiadau cyhoeddus. Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad cyhoeddus a roddir gan gyngor cymuned gael ei gyhoeddi’n electronig.

Mae adran 57 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Atodlen 12 i Ddeddf 1972. Mae Atodlen 12 yn ymwneud â chyfarfodydd a thrafodion awdurdodau lleol ac mae’r diwygiadau yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth benodol yn electronig gan gynghorau cymuned.   

Mae adran 58 yn diwygio adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”). Mae’r diwygiad yn ei gwneud yn ofynnol bod cofrestr buddiannau’r aelodau o dan adran 81 o Ddeddf 2000 ar gael yn electronig a bod yr wybodaeth am sut i gael mynediad ati hefyd ar gael.

Mae adran 68 yn diwygio adran 53 o Ddeddf 2000 i alluogi awdurdodau perthnasol i sefydlu cyd-bwyllgorau safonau gydag un neu ragor o awdurdodau eraill. Mae’r ddarpariaeth newydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ymwneud â chyd-bwyllgorau o’r fath ac yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau sy’n ystyried sefydlu cyd-bwyllgor roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Mae adran 69 yn diwygio adran 73 o Ddeddf 2000 sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn ymwneud â materion a atgyfeirir at swyddog monitro awdurdod perthnasol. Mae’r diwygiadau yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud sy’n ymwneud â gallu’r swyddog monitro neu bwyllgor safonau un awdurdod i atgyfeirio mater i bwyllgor safonau awdurdod arall. Mae adran 69 hefyd yn diwygio adran 81 o Ddeddf 2000 mewn perthynas â goddefebau a ganiateir gan bwyllgorau safonau o dan adran 81(4) pan fydd aelod neu aelod cyfetholedig wedi cofrestru buddiant drwy gydnabod y caiff pwyllgor safonau awdurdod perthnasol arall ganiatáu goddefeb a thrwy ehangu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn adran 81(5) i’w galluogi i wneud darpariaeth am y weithdrefn i’w dilyn.

 

 

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaeth a ganlyn y Ddeddf wedi ei dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

 

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 63

11.4.2004

2014/380

(Cy. 45)

(C. 15)

 

 


2015 Rhif 1182 (Cy. 79) (C. 71)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015

Gwnaed                                  16 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 75(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2) 2015.

Y diwrnod penodedig

2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dwyn yr adrannau a ganlyn o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i rym yw 1 Mai 2015—

(a)     adran 55 (gwefannau cynghorau cymuned);

(b)     adran 56 (gofyniad i roi hysbysiadau cyhoeddus yn electronig);

(c)     adran 57 (cyfarfodydd a thrafodion cymunedau);

(d)     adran 58 (cofrestrau buddiannau aelodau);

(e)     adran 68 (cyd-bwyllgorau safonau); ac

(f)      adran 69 (atgyfeirio achosion yn ymwneud ag ymddygiad).

 

 

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

16 Ebrill 2015

 

 



([1])   2013 dccc 4.